Luke 22:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Pan eich anvoneis eb gwd, ac yscrepan, ac yscidiae, a vu arnoch eisiau dim? Ac wy a ddywedesont, Na ddo ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Pan ddanfonais chwi heb bwrs a chod ac esgidiau, a oedd rhyw beth yn ol i chwi? A hwy a ddywedasant, Nac oedd ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi heb bwrs na chod nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim?” Dywedasant hwythau, “Naddo ddim.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'w ddisgyblion, “Pan wnes i'ch anfon chi allan heb bwrs na bag teithio na sandalau sbâr, fuoch chi'n brin o gwbl?” “Naddo,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt, "Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?" "Naddo," atebasant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais chwi heb gôd, ac ysgrepan, a sandalau, a fu angen dim arnoch? A hwy a ddywedasant, Dim.