Luke 22:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef wrthynt, Eithr yr awrhon y neb ys y gantaw gwd, cymeret, a’r vn ffynyt yscrepan: a’r nep ny bo gāthaw yr vn, gwerthet ei bais, a’ phrynet gleddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yn awr, yr hwn sydd a chanddo bwrs, cymmered; yr un ffunud hefyd, god; a’r hwn nad oes ganddo, gwerthed ei gochl, a phryned gleddyf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd wrthynt, “Ond yn awr yr hwn sydd ganddo bwrs, cymered ef, a’r un modd god hefyd; a’r hwn sydd heb yr un, gwerthed ei fantell a phryned gleddyf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a'r un modd god: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd wrthyn nhw, “Ond nawr, ewch â'ch pwrs a'ch bag gyda chi; ac os oes gynnoch chi ddim cleddyf, gwerthwch eich côt i brynu un.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau, "Ond yn awr, os oes gennych bwrs, ewch ag ef gyda chwi, a'ch cod yr un modd; ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yr awrhon yr hwn sydd ganddo gôd, cymmered; yr un modd hefyd, ysgrepan: a'r hwn nid oes ganddo, gwerthed ei wisg uchaf, a phryned gleddyf: