Luke 22:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys dywedaf ychwi, pan yw eto hyn ys y escrivennedic, ys angenrait ei gyflawni yno vi, Ac y gyd ar ei enwir y cyfrifwyt ef: can ys diamau bod diben yr awrhon am y pethae a yscrifenvvyt ohano vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dywedaf wrthych, Y peth hwn a ysgrifenwyd, y mae rhaid ei gyflawni Ynof, sef, “A chyda throseddwyr y cyfrifwyd,” canys yr hyn a ’sgrifenwyd am Danaf sydd ag iddo ddiben.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi fod yn rhaid cyflawni’r ysgrythur hon ynof i: A chyda throseddwyr y cyfrifwyd ef. Oes, y mae cyflawniad i’r gair amdanaf i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda'r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i'r pethau amdanaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r broffwydoliaeth sy'n dweud, ‘Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r gwrthryfelwyr’, yn mynd i ddod yn wir. Ydy, mae'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu amdana i yn yr ysgrifau sanctaidd yn mynd i ddod yn wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: 'A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.' Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid i'r hyn sydd wedi ei ysgrifenu gael ei gyflawnu ynof fi, — A chyd â'r troseddwyr y cyfrifwyd ef,: canys y mae hefyd gyflawniad i'r peth am danaf fi.