Luke 22:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddeuth allan, ac aeth (megis ydd oedd ef gynefin) i vonyth yr olewydd, a’ei ddiscipulon ei canlynesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan, yr aeth, yn ol Ei arfer, i fynydd yr Olewydd; ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd y disgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth allan, a myned yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd; a dilynodd ei ddisgyblion ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd eto, fel roedd wedi gwneud bob nos. Ac aeth ei ddisgyblion ar ei ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth allan, a cherdded yn l ei arfer i Fynydd yr Olewydd, a'i ddisgyblion hefyd yn ei ddilyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi myned allan, efe a a aeth, yn ol ei arfer, i Fynydd yr Olew‐wydd: a'r Dysgyblion hefyd a'i canlynasant ef.