Luke 22:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ac ef mewn cyfingdra meddvvl, ef a weddiawdd yn ddyvalach: a’ ei chwys ef ytoedd megis deigreu gwaet, yn treiglo i lawr yd y ddaear.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan fod mewn ing, yn ddyfalach y gweddïodd; ac aeth Ei chwys fel defnynau mawrion o waed, yn disgyn ar y ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth yn gyfyng arno, a gweddïai’n ddyfalach; ac yr oedd ei chwys fel dafnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.]
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a'i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddo'n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe mewn ymdrech enaid oedd yn gweddïo yn daerach. A'i chwys ef oedd fel dyferynau mawrion o waed yn treiglo i lawr ar y ddaear.