Luke 22:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gyfodes o weðiaw, ac a ðauth at ei ddiscipulon, ac ei cafas wy yn cyscy gan dristit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi codi o’i weddi, ac wedi myned at y disgyblion, cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo godi o’i weddi, aeth at y disgyblion, a chafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gododd ar ei draed a mynd yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. Roedd tristwch yn eu llethu nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd o'i weddi a mynd at ei ddisgyblion a'u cael yn cysgu o achos eu gofid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gyfododd efe o'i weddi, efe a ddaeth at y Dysgyblion, ac a'u cafodd hwynt wedi syrthio i gwsg gan dristwch.