Luke 22:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Iudas, a vradychy di Vap y dyn a chusan?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Iwdas, ai â chusan Mab y Dyn a draddodi? A chan weled o’r rhai o’i amgylch yr hyn oedd ar ddigwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Iesu wrtho, “Iwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y dyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Iesu'n gofyn iddo, “Wyt ti'n bradychu Mab y Dyn â chusan?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrtho, "Jwdas, ai chusan yr wyt yn bradychu Mab y Dyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y Dyn?