Luke 22:51 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r Iesu atepawdd, ac a ddyvot, Goddefwch hvvy yd hynn. Ac ef a gyfurddawdd a ei glust, ac ei iachaodd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gadewch hyd yn hyn: ac wedi cyffwrdd â’r glust, iachaodd ef. A dywedodd yr Iesu wrth y rhai oedd yno yn Ei erbyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu, “Caniatewch gymaint â hyn”; a chyffyrddodd â’i glust, ac iachaodd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i hiachaodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Stopiwch! Dyna ddigon!” meddai Iesu. Yna cyffyrddodd glust y dyn a'i iacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Peidiwch! Dyna ddigon!" Cyffyrddodd 'r glust a'i hadfer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn: ac efe gan gyffwrdd â'i glust a'i hiachâodd ef.