Luke 22:52 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu wrth yr Archoffeiriat ac wrth lywodraethwyr y Templ, a’r Henurieit yr ei a ddauthesei attaw, A ddaetho‐chwi allan megis at leitr a chleddyfae ac a ffynn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn archoffeiriaid a chapteniaid y deml ac henuriaid, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Iesu wrth y rhai a ddaethai yn ei erbyn, yr archoffeiriaid a phenaethiaid y deml a’r henuriaid, “Ai megis yn erbyn lleidr y daethoch allan, gyda chleddyfau a phastynau?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd wrth y prif offeiriaid, swyddogion diogelwch y deml a'r arweinwyr eraill oedd wedi dod i'w ddal, “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth? Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, "Ai fel at leidr, chleddyfau a phastynau, y daethoch allan?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrth y rhai a ddaethant yn ei erbyn ef, yr Arch‐offeiriaid, a Chad‐flaenoriaid y Deml, a'r Henuriaid, Ai at fel ysbeiliwr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a bastynau?