Luke 22:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan oeddwn paunydd gyd a chwi yn y templ, nyd estenesoch ddwylo ym erbyn: eithyr hon yw eich gwir awr, a’ gallu yr tywyllw ch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan beunydd yr oeddwn gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylaw i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi ac awdurdod y tywyllwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mi beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylo yn fy erbyn; ond hon yw eich awr chwi, a’r tywyllwch sydd mewn awdurdod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu'r tywyllwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam na ddalioch chi fi yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd! Ond dyma'ch cyfle chi — yr amser pan mae pwerau'r tywyllwch yn rheoli.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er fy mod gyda chwi beunydd yn y deml, ni wnaethoch ddim i'm dal. Ond eich awr chwi yw hon, a'r tywyllwch biau'r awdurdod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan oeddwn yn ddyddiol gyd â chwi yn y Deml nid estynasoch eich dwylaw yn fy erbyn i. Eithr hon yw eich Awr chwi, ac Awdurdod y Tywyllwch.