Luke 22:59 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn cylch awr yn ol hynny, vn arall a gadarnhaodd, gan ddywedyt. Yn wir ac ydd oedd y dyn hwn gyd ac ef: can ys Galileat ytyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Petr a ddywedodd, O ddyn, nid wyf. Ac wedi yspaid o oddeutu awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, hwn hefyd oedd gydag Ef, canys Galilead hefyd yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ôl tuag awr o ysbaid, rhywun arall a ddechreuodd daeru, gan ddywedyd, “Ar fy ngwir, yr oedd hwn gydag ef; achos Galilead yw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae'n amlwg ei fod yn dod o Galilea.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, "Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol yspaid megys un awr, rhyw ddyn arall a daerodd yn hŷf, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd âg ef: canys Galilead yw.