Luke 22:61 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr Arglwydd a ymchoelawdd, ac a edrychawdd ar Petr: ac a ddaeth yn‐cof Petr ymadrodd yr Arglwydd py wedd y dywedesei wrthaw, Cyn canu ’r ceiliawc, tu a ’m gwedy dairgwaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi troi, yr Arglwydd a edrychodd ar Petr; a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu fel y dywedodd wrtho, “Cyn i geiliog ganu heddyw, gwedi Fi dair gwaith;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A throes yr Arglwydd, ac edrychodd ar Bedr; a chofiodd Pedr air yr Arglwydd, ddywedyd ohono wrtho, “Cyn canu o’r ceiliog heddiw, ti a’m gwedi deirgwaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi ei ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, "Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd yn daer ar Petr: a Phetr a adgofiwyd o air yr Arglwydd, fel y dywedodd efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog heddyw, y gwedi fi deirgwaith [adn 34].