Luke 22:66 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac er cynted ydd oedd hi yn ddydd, ydd ymgynullawdd Henurieit y popul, a’r Archoffeiriait a’r gwyr llen, ac yr arwenesont ef y’w Seneddr hwy, can ddywedyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan aeth hi yn ddydd, ymgynhullodd henaduriaeth y bobl, yn gystal archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant Ef ymaith at eu Cynghor,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant ef gerbron eu cyfarfod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, ac a'i dygasant ef i'w cyngor hwynt,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd hi'n gwawrio dyma'r Sanhedrin yn cyfarfod, hynny ydy, yr arweinwyr oedd yn brif-offeiriaid neu'n arbenigwyr yn y Gyfraith. A dyma Iesu'n cael ei osod o'u blaenau nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan aeth hi yn ddydd, Corff Henuriaid y Bobl a ddaeth ynghyd, Arch‐offeiriaid ac hefyd Ysgrifenyddion, ac a'i harweiniasant ef ymaith at eu Huchel Gynghor hwy,