Luke 22:70 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywedesont oll, Yw‐ti can hynny yn Vap Duw? Ac ef a ddyvot wrthynt, Ydd yw chwi yn dywedyt vy‐bot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedasant oll, Tydi, gan hyny, wyt Mab Duw? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi a ddywedwch mai Myfi ydwyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedasant oll, “Mab Duw ynteu, ydwyt ti?” Ebe yntau wrthynt, “Dywedwch chwi fy mod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly wyt ti'n dweud mai ti ydy Mab Duw?” medden nhw gyda'i gilydd. “Chi sydd wedi dweud y peth,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddent oll, "Ti felly yw Mab Duw?" Atebodd hwy, "Chwi sy'n dweud mai myfi yw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hyny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn ei ddywedyd: canys yr wyf yn Fab Duw.