Luke 23:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Herod ef a ei gywdawddwyr ny roesont vri arnaw, ac ei gwatworesant, ac ei gwiscesont ef o wynn, ac a ei danvonawð drachefyn at Pilatus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Herod wedi Ei ddiystyru Ef, ynghyda’i filwyr, ac wedi Ei watwar Ef, gan Ei wisgo â gwisg ddisglaer, a’i danfonodd yn Ei ol at Pilat.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’i ddiystyru a wnaeth Herod a’i osgorddion, ac wedi ei watwar a rhoi gwisg wych amdano, anfonodd ef yn ôl at Bilat.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Herod a'i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a'i watwar, a'i wisgo â gwisg glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Peilat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Herod a'i filwyr yn dechrau gwneud hwyl am ei ben a'i sarhau. Dyma nhw'n ei wisgo mewn mantell grand, a'i anfon yn ôl at Peilat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd 'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn l at Pilat.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Herod gyd a'i finteioedd, wedi ei drin ef gyd â dirmyg, a'i watwar, a'i gwisgodd mewn gwisg ddysglaerwych, ac a'i danfonodd ef i fyny at Pilat.