Luke 23:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar y dydd hwnw ydd aeth Pilatus a’ Herod yn gymddeithion: canys cyn na hyny yð oeð yn ’elyniaeth rhyngtwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth Pilat a Herod yn gyfeillion â’u gilydd y dydd hwnw, canys cyn hyny yr oeddynt mewn gelyniaeth â’u gilydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth Herod a Philat yn gyfeillion y diwrnod hwnnw; gynt buasai cas rhyngddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'i gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw'n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dydd hwnw y daeth Herod a Pilat yn gyfeillion â'u gilydd: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd.