Luke 23:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr oll lliaws a lefawdd ar vnwaith, can ddywedyt, Ymaith ac ef, a’ gellwng Barabbas yn rhyð i ni:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwaeddasant, yr holl liaws, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng yn rhydd i ni Barabbas;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gweiddi a wnaent gyda’i gilydd oll, “Ymaith â hwn, gollwng Barabbas i ni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw i gyd yn gweiddi gyda'i gilydd, “Lladda fe! Gollwng Barabbas yn rhydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwaeddasant ag un llais, "Ymaith hwn, rhyddha Barabbas inni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr holl luaws ynghyd a waeddasant yn uchel, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: