Luke 23:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a a ddechraesont ei gyhuddaw, can ddywedyt. Hwn yma a gawsam yn troi’r bobyl, ac yn gohardd taly teyrnget i Caisar, can ddywedyt, mae ef yw Christ Vrenhin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dechreuasant Ei gyhuddo, gan ddywedyd, Hwn a gawsom yn gwyr-droi ein cenedl, ac yn rhwystro rhoi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai Efe Ei hun yw Crist Frenhin.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuasant ei gyhuddo, gan ddywedyd, “Hwn a gawsom yn gŵyrdroi ein cenedl, ac yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn dywedyd mai ef ei hun yw Crist frenin.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi'r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dechrau dadlau eu hachos yn ei erbyn, “Mae'r dyn yma wedi bod yn camarwain ein pobl. Mae'n gwrthwynebu talu trethi i lywodraeth Rhufain, ac mae'n honni mai fe ydy'r brenin, y Meseia.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreusant ei gyhuddo gan ddweud, "Cawsom y dyn hwn yn arwain ein cenedl ar gyfeiliorn, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn honni mai ef yw'r Meseia, sef y brenin."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyr‐droi ein Cenedl, ac yn gwahardd rhoddi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.