Luke 23:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Pilatus a ddyvot wrthyn drachefyn, can ewyllysy rhyddhay ’r Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrachefn, Pilat a lefarodd wrthynt, gan ewyllysio gollwng yn rhydd yr Iesu:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Drachefn anerchodd Pilat hwynt, gan ddymuno gollwng yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Peilat yn eu hannerch nhw eto. Roedd e eisiau gollwng Iesu yn rhydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Drachefn anerchodd Pilat hwy, yn ei awydd i ryddhau Iesu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Philat a alwodd arnynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.