Luke 23:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthynt y drydydd waith, An’d pa ddrwc a wnaeth ef: ny chefais ynthaw achos angae: am hyny mi ei cospaf, ac ei gellyngaf yn rhydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, y drydedd waith, a ddywedodd wrthynt, Canys pa ddrwg a wnaeth Hwn? Nid oes ddim bai marwolaeth a gefais Ynddo: wedi ei geryddu, gan hyny, gollyngaf Ef yn rhydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt y drydedd waith, “Pa ddrwg, ynteu, a wnaeth ef? Ni chefais ddim achos marwolaeth ynddo; felly cosbaf ef, a’i ollwng ymaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd iddyn nhw'r drydedd waith, “Pam? Beth mae wedi ei wneud o'i le? Dydy'r dyn ddim yn euog o unrhyw drosedd sy'n haeddu dedfryd o farwolaeth! Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y drydedd waith meddai wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Ni chefais unrhyw achos i'w ddedfrydu i farwolaeth. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo 'r chwip a'i ollwng yn rhydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ni chefais achos marwolaeth ynddo: gan hyny mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.