Luke 23:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ellyggawð yddwynt hwn‐am gyfodiat a’ llawryddiaeth a roesit yn carchar: ys ef yr hwn a archesent wy, ac ef a roddes yr Iesu y wnaethy ’r ac ef a vynnent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynasant: a’r Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gollyngodd yr un a fwriesid i garchar am derfysg a llofruddiaeth, yr un y gofynnent amdano, ond yr Iesu a draddododd i’w hewyllys hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i'w hewyllys hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhyddhaodd Barabbas, y dyn oedd yn y carchar am derfysg a llofruddiaeth, a dedfrydu Iesu i farwolaeth fel roedden nhw eisiau iddo wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac efe a ollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth oedd wedi ei fwrw i garchar, yr hwn a ddeisyfasant; eithr yr Iesu a draddododd efe i fyny i'w hewyllys hwynt.