Luke 23:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oeddent yn ei arwein ef ymaith, wy ddaliesont vn Simon o Cyren, yn dyuot o’r maes, ac arnaw ef y gosodesont y groc, y’w dwyn ar ol yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac fel y dygent Ef ymaith, wedi cymmeryd gafael yn rhyw Shimon o Cyrene yn dyfod o’r wlad, dodasant arno ef y groes i’w dwyn ar ol yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddygasant ef ymaith, daliasant ryw Simon o Gyrene ar ei ffordd o’r wlad, a dodasant y groes arno, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ôl yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddyn nhw arwain Iesu i ffwrdd roedd Simon o Cyrene ar ei ffordd i mewn i'r ddinas, a dyma nhw'n ei orfodi i gario croes Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu l i Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a gymmerasant afael mewn un Simon, O Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu.