Luke 23:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yn ei ganlyn ef turfa vawr o popul, ac o wragedd, a’r gvvragedd hyny oedd yn cwynofain ac yn g alary drostaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd lliaws mawr o bobl, ac o wragedd a wylent ac a alarent o’i blegid Ef:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn ei ddilyn yr oedd lliaws mawr o’r bobl, ac o wragedd a oedd yn ymguro ac yn galaru amdano.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o'i blegid ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tyrfa fawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys nifer o wragedd yn galaru ac wylofain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yn ei ganlyn ef luaws mawr o'r bobl; hefyd o wragedd, y rhai oeddynt yn curo eu bronau, ac yn galaru o'i blegyd.