Luke 23:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ymchwelawdd atwynt, can ddywedyt, Merchet Caerusalem, nac wylwch droso vi, ’n amyn wylwch trosoch eich hunain, a’ch plant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi troi attynt, yr Iesu a ddywedodd, Merched Ierwshalem, na wylwch o’m plegid I, Eithr o’ch plegid eich hunain gwylwch, ac o blegid eich plant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Troes Iesu atynt, a dywedodd, “Ferched Caersalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; eithr wylwch amdanoch eich hunain ac am eich plant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o'm plegid i: eithr wylwch o'ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Iesu'n troi ac yn dweud wrthyn nhw, “Ferched Jerwsalem, peidiwch crïo drosto i; crïwch drosoch eich hunain a'ch plant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troes Iesu atynt a dweud, "Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Iesu, gan droi atynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, Na wylwch allan droswyf fi; yn hytrach, wylwch allan drosoch ein hunain a thros eich plant.