Luke 23:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys, nycha, y daw’r dyddiae y dywedant, Gwyn ei byt yr hespion, a’r bruoedd ny chenedlesont erioed, ar bronnae ny roesant sugn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys wele, dyfod y mae’r dyddiau yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y gwragedd anffrwythlawn, A’r crothau nad eppiliasant, a’r bronnau na feithrinasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys wele, daw dyddiau pryd y dywedant, ‘Gwyn eu byd yr amhlantadwy a’r crothau nid esgorasant a bronnau ni roesant sugn.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele, y mae'r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a'r crothau nid epiliasant, a'r bronnau ni roesant sugn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r amser yn dod pan fyddwch yn dweud, ‘Mae'r gwragedd hynny sydd heb blant wedi eu bendithio'n fawr! — y rhai sydd erioed wedi cario plentyn yn y groth na bwydo plentyn ar y fron!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, 'Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn fyd y gwragedd anmhlantadwy, a'r crothau ni epiliasant, a'r bronau ni roisant faeth.