Luke 23:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y dyvot hwy i’r lle, a elwyt y Penglocva, yno y crogesont ef, a’r drygddynion: vn ar y ddeheu, a’r all ar y aswy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddaethant at y lle a elwir Y Benglog, yno y croes-hoeliasant Ef, a’r drwgweithredwyr, y naill ar y llaw ddehau, a’r llall ar yr aswy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, yno croeshoeliasant ef a’r troseddwyr, y naill o’r tu dehau a’r llall o’r tu aswy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaethant i'r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a'r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a'r llall ar yr aswy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy'n cael ei alw ‛Y Benglog‛, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes a'r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, [yn y Lladin, Calfaria], yno y croeshoelisant ef a'r Drwg‐weithredwyr, un ar y llaw ddeheu a'r llall ar yr aswy.