Luke 23:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu. Y Tad, maddae yddwynt, can na wyddon peth y maent yn ei wneythy r. Ac wy a barthesant ei ðillat, ac a vwriesant goelbreni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneud. Ac wrth rannu o honynt Ei ddillad, bwriasant goelbren.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai’r Iesu, “Dad, maddau iddynt; canys ni wyddant beth a wnânt.” A chan rannu ei ddillad, bwriasant goelbrennau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud.” A dyma'r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Iesu, "O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud." A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt, canys nid ydynt yn gwybod pa beth y maent yn ei wneuthur. A chan ranu yn eu plith ei wisgoedd uchaf, hwy a fwriasant goelbren.