Luke 23:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r popul oedd yn sefyll, ac yn edrych: a’r llywiawdwyr ei gwatworent y gyd ac wynt, gan ðywedyt, Eraill a iachaeai: iachaet ehun, a’s ef y’w’r Christ, yr Etholedic can D d uw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A safai’r bobl yn edrych; ond gwatwar yr oedd y pennaethiaid hefyd, gan ddywedyd, Eraill a waredodd Efe; gwareded Ef Ei hun, os Hwn yw Crist Duw, Y Dewisedig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safai’r bobl yn edrych. A gwawdiai’r penaethiaid hefyd, gan, ddywedyd, “Eraill a achubodd; achubed ef ei hun, os ef yw Crist Duw, yr etholedig.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobl a safodd yn edrych. A'r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y bobl yno'n gwylio'r cwbl, a'r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a'i wawdio. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo'i achub ei hun, os mai fe ydy'r Meseia mae Duw wedi ei ddewis!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, "Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r bobl a safodd yn edrych yn syn. Ond y Llywodraethwyr hyd y nod a wawdiasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe: gwareded ei hun, os hwn yw Crist Duw, ei Etholedig.