Luke 23:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Pilatus wrth yr Archoffeiriait, ac wrth y popl, Nyd wyf i yn cahel dim bai ar y dyn hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Pilat a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid a’r torfeydd, Nid oes dim bai a gaf yn y dyn hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Pilat wrth yr archoffeiriaid a’r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim achos yn y dyn hwn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a'r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Peilat yn troi at y prif offeiriaid a'r dyrfa ac yn cyhoeddi, “Dw i ddim yn credu fod unrhyw sail i ddwyn cyhuddiad yn erbyn y dyn yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, "Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd Pilat wrth yr Arch‐offeiriaid a'r torfeydd, Nid wyf fi yn cael bai yn y dyn hwn.