Luke 23:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r llall a atepawdd, ac y ceryddawdd ef, can ddyweddyt, Anyd oes arnat ofn Duw, a’ thydy yn yr vn varn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond gan atteb, y llall, yn ei ddwrdio ef, a ddywedodd, Onid ofni di Dduw, gan mai yn yr un condemniad yr wyt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond atebodd y llall, a’i geryddu; “Onid wyt ti,” eb ef, “yn ofni Duw, gan dy fod dithau dan yr un farnedigaeth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y llall a atebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond atebodd y llall, a'i geryddu: "Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y llall a atebodd, a chan ei geryddu ef, a ddywedodd, Onid wyt ti hyd y nod yn ofni Duw, gan dy fod yn yr un farnedigaeth?