Luke 23:46 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a lefawdd a llef vchel, ac a ddyvot, Y Tad, ith ddwylaw y cymennaf vy yspryt. A’ gwedy yddaw ddywedyt hyn, ef a anhetlawdd allan yr yspryt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan lefain â llef uchel, yr Iesu a ddywedodd, Tad, i’th ddwylaw yr wyf yn rhoddi i gadw Fy yspryd; a phan hyn a ddywedasai, trengodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llefodd yr Iesu â llef uchel a dywedodd, “Dad, i’th ddwylo di yr wyf yn ymddiried fy ysbryd.” Ac wedi dywedyd hynny, bu farw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i'th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Dad, dw i'n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llefodd Iesu llef uchel, "O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd." A chan ddweud hyn bu farw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi i'r Iesu lefain â llef uchel, efe a ddywedodd, O Dâd, i'th ddwylaw di y cyflwynaf fy Yspryd: ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd allan ei fywyd.