Luke 23:47 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weles y Cannwriad yr hyn a wnaethpwyt, ef a roes ’ogoniant i Dduw, can ddywedyt, Yn sicur ydd oedd y dyn hwn yn gyfiawn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’r canwriad yr hyn a ddigwyddasai, gogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir, y dyn hwn cyfiawn ydoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y canwriad y peth a fu, dechreuodd ogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn gyfiawn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma'n siŵr o fod yn ddieuog!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, "Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y Canwriad yr hyn a wnaethpwyd, efe a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn sicr yr oedd y gwr hwn yn gyfiawn.