Luke 23:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r oll turfa ar a ðauthei ynghyt er y golwc hynn, cann weled y pethae a ddaroedd, a guresont ei dwyvronae, ac ymchwelesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r holl dorfeydd a oedd yn bresennol wrth y golwg hwn, wedi gweled y pethau a ddigwyddasant, dan guro eu bronnau y dychwelasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r holl dyrfaoedd a ddaethai ynghyd i’r olygfa hon, wedi edrych ar y pethau a fu, a droesant yn eu hôl dan guro dwyfron.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A phan welodd y dyrfa oedd yno beth ddigwyddodd, dyma nhw'n troi am adre'n galaru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd, troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio'r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r holl dorfeydd y rhai a ddaethant ynghyd i'r olygfa hon, wedi edrych yn syn ar y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant gan guro eu dwyfronau.