Luke 23:49 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei oll gydnabot a savent o hir‐bell, a’r gwragedd y dylinesent ef or Galilaia, gan edrych ar y pethae hynn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A safai Ei holl gydnabod o hirbell, ac y gwragedd y rhai a’i canlynasant Ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr oedd ei gydnabod oll, a’r gwragedd a’i canlynasai ef o Galilea, yn sefyll o bell, ac yn gweled y pethau hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd y rhai a'i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond arhosodd ei ffrindiau agos i wylio o bell beth oedd yn digwydd — gan gynnwys y gwragedd oedd wedi ei ddilyn o Galilea.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei holl gyfeillion, ynghyd 'r gwragedd oedd wedi ei ddilyn ef o Galilea, yn sefyll yn y pellter ac yn gweld y pethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i holl gydnabyddion ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd a'i canlynasant ef o Galilea, gan weled y pethau hyn.