Luke 23:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyntae ymlewhay a wnaethant, can ddywedyt, Mae ef yn cynnurfy ’r popul, gan dany dysc tros oll Iudaia. Ac yn dechrae o Galilea yd yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy oeddynt daerach, gan ddywedyd, Cyffroi’r bobl y mae, gan ddysgu trwy holl Iwdea, ac wedi dechreu o Galilea hyd yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond taeru a wnaent hwythau, gan ddywedyd, “Y mae’n cynhyrfu’r bobl wrth eu dysgu trwy holl Iwdea, ar ôl dechrau yn Galilea, hyd at yma.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi'r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedden nhw'n benderfynol, “Mae'n creu helynt drwy Jwdea i gyd wrth ddysgu'r bobl. Dechreuodd yn Galilea, a nawr mae wedi dod yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dal i daeru yr oeddent: "Y mae'n cyffroi'r bobl 'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond hwy a wnaethant ymegnio, gan ddywedyd, Y mae efe yn cynhyrfu y bobl, gan ddysgu trwy holl Judea, a dechreu o Galilea hyd yma.