Luke 23:51 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef ny chytunesei a ei cygcor na’c a’ ei gweithret hwy, ac ef a hanoedd o’r Arimathaia, dinas yr Iuddaeon: yr hwn oedd yntef yn edrych am teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
(efe ni fu yn cyttuno â’u cynghor ac â’u gweithred) o Arimathea, dinas yr Iwddewon, yr hwn a ddisgwyliai am deyrnas Dduw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid oedd hwn wedi cydsynio â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt, — o Arimathea, dinas yr Iddewon, un oedd yn disgwyl teyrnas Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Hwn ni chytunasai â'u cyngor ac â'u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond doedd e ddim wedi cytuno â'r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nad oedd wedi cydsynio 'u penderfyniad a'u gweithred hwy. Yr oedd yn hanu o Arimathea, un o drefi'r Iddewon, ac yn disgwyl am deyrnas Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(yr hwn ni chydsyniodd â'u cynghor ac a'u gweithred hwynt,) o Arimathea, dinas yr Iuddewon, yr hwn oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw: