Luke 23:53 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ei tynnawdd i lawr, ac ei amdoes mewn lliein, ac egosodes mewn monwent wedy’r drychy o graic lle ny roesit nep ir ioet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi Ei dynu Ef i lawr, amdôdd Ef mewn lliain main; a rhoddodd Ef mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, lle nid oedd neb etto yn gorwedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe droes lenlliain amdano, a dododd ef mewn bedd naddedig o’r graig, lle nid oedd neb erioed wedi ei gladdu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn lliain main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tynnodd y corff i lawr a'i lapio gyda lliain ac yna ei roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi ei naddu yn y graig — doedd neb erioed wedi ei gladdu yno o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi ei dynnu ef i lawr a'i amdi mewn lliain, gosododd ef mewn bedd wedi ei naddu, lle nad oedd neb hyd hynny wedi gorwedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'i tynodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn llian main gwerthfawr, ac a'i dododd ef mewn bedd wedi ei naddu mewn craig, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed eto.