Luke 23:55 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r gwrageð hefyt yr ei oedd yn darddilyn, yr ei a ddaethent gyd ac ef o’r Galilea, a edrychesont ar y vonwēt a’ pha bodd y gesodesit y gorph ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan ganlyn, y gwragedd, y rhai a ddaethent o Galilea ynghydag Ef, a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd Ei gorph:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chanlynodd y gwragedd, a ddaethai gydag ef o Galilea, ac edrych ar y bedd a’r modd y dodwyd ei gorff;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y gwragedd o Galilea oedd gyda Iesu wedi dilyn Joseff, ac wedi gweld y bedd lle cafodd y corff ei osod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a'r modd y gosodwyd ei gorff.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gwragedd, y rhai a ddaethant gyd âg ef o Galilea, a ganlynasant yn dyn ar ol, ac a edrychasant yn graffus ar y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef.