Luke 23:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan wybu mae o gyvoeth Herod yr hanoedd, ef ei danvones at Herod, ac ydd oedd yntae hefyt yn‐Caerusalem y dyðiae hyny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan wybod mai o lywodraeth Herod yr ydoedd, danfonodd Ef at Herod, yr hwn oedd yntau hefyd yn Ierwshalem y dyddiau hyny.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi deall mai o dan awdurdod Herod yr ydoedd, trosglwyddodd ef at Herod, a oedd yntau yng Nghaersalem y dyddiau hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan sylweddolodd hynny, anfonodd Iesu at Herod Antipas, gan ei fod yn dod o'r ardal oedd dan awdurdod Herod. (Roedd Herod yn digwydd bod yn Jerwsalem ar y pryd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan wybu efe yn hollol ei fod ef o gylch awdurdod Herod, efe a'i danfonodd ef i fyny at Herod, yr hwn hefyd oedd yn Jerusalem yn y dyddiau hyny.