Luke 23:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weles Herod yr Iesu, ef a lawenechawdd yn vawr: can ys ydd oedd yn hir gantaw am ei weled ef er es talm, erwydd iðaw glywed son llawer o bethae am danaw, ac ydd oedd e yn gobeithiaw gahel gweled gwnaethy ryw arwydd y ganthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Herod, wedi gweled yr Iesu, a lawenychodd yn fawr, canys yr oedd er’s amser maith yn ewyllysio Ei weled Ef, o herwydd ei fod yn clywed am Dano; a gobeithiai hefyd weled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur Ganddo;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bu dda dros ben gan Herod weled yr Iesu; canys yr oedd yn dymuno ers cryn amser ei weled am iddo glywed amdano, a gobeithiai weled gwneuthur rhyw arwydd ganddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Herod wrth ei fodd ei fod yn cael cyfle i weld Iesu. Roedd wedi clywed amdano ers amser maith, ac wedi bod yn gobeithio cael ei weld yn gwneud rhywbeth gwyrthiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Herod pan welodd yr Iesu, a fu lawen iawn ganddo: canys yr oedd efe yn awyddus er amseroedd meithion ei weled ef, o herwydd iddo glywed am dano, ac yr oedd yn gobeithio gweled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur ganddo.