Luke 23:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd ymholes ac ef am lawer o bethae: eithyr nyd atepawdd ef ddim iddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a holodd Ef â geiriau lawer; ond Efe ni roes ddim atteb iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bu’n ei holi mewn hir ymddiddan; ond nid atebodd ef ddim iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd un cwestiwn ar ôl y llall i Iesu, ond roedd Iesu'n gwrthod ateb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; ond efe ei hun nid atebodd ddim iddo.