Luke 24:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YN awr yn y dydd cyntaf o’r wythnos ar y cynddydd, y daethant ir vonwent, gan ddwyn yr aroglae, yr ei a arlwyesent wy, a’ gvvragedd ’r ei y gyd a’ hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar y Sabbath y buant lonydd yn ol y gorchymyn; ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, y wawr yn blygeiniol iawn, daethant at y bedd, gan ddwyn gyda hwynt y per-aroglau a barottoisent;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a’r wawr ar dorri, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau a baratoesent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda'r perlysiau roedden nhw wedi eu paratoi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, gyd â'r wawr gynaraf, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a barotoisant.