Luke 24:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Mair Magdalen, a’ Ioanna, a’ Mair mam Iaco a’ gvvragedd ereill y gyd ac wynt, oedd yr ei a ddywedesont y pethe hyn wrth yr Apostolon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Mair Magdalen ac Ioanna a Mair, mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mair Magdalen a Ioana a Mair mam Iago oeddent; a’r lleill hefyd gyda hwynt oedd yn dywedyd y pethau hyn wrth yr apostolion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a'r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a nifer o wragedd eraill i ddweud yr hanes wrth yr apostolion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mair Magdalen, a Johanna, a Mair mam Iago oeddynt hwy: a'r gwragedd eraill gyd â hwynt a ddywedasant wrth yr Apostolion y pethau hyn.