Luke 24:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cyuodes Petr, ac y rhedawdd i’r vonwent, ac edrychawð y mywn, ac a welawdd y llen llieniae wedy ei dodi yno wrthyn yhunain, ac ef aeth ymaith gan ryveddu ryngtho ac y hun gan y peth a ddar vesei. Yr Euāgel ar ddie Llun Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Petr, wedi codi, a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymmu gwelodd y llieiniau yn unig, ac aeth ymaith gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddigwyddasai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
[Ond cododd Pedr, a rhedodd at y bedd; ac wedi ysbïo i mewn, fe wêl y rhwymynnau yn unig; ac aeth ymaith adref gan ryfeddu at yr hyn a fu.]
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu'r llieiniau wedi eu gosod o'r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Pedr yn rhedeg at y bedd i edrych. Plygodd i edrych i mewn i'r bedd a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno'n wag. Gadawodd y bedd yn methu'n lân a deall beth oedd wedi digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Petr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd, ac wedi iddo ymgrymu y mae yn canfod yr amrwymau yn unig: ac efe a aeth ymaith i'w gartref, gan ryfeddu am y peth a ddarfuasai.