Luke 24:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, ac wynt yn cyd ymddiddan, ac yn ymðadlae, bot i’r Iesu yntef nesay, a’ myned gyd
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a bu wrth ymddiddan a chwestiynu o honynt, yr Iesu Ei Hun hefyd, wedi nesau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth eu bod yn ymddiddan ac yn ymofyn â’i gilydd, dyma Iesu ei hun yn dynesu ac yn cydgerdded â hwynt;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i'r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu'n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan ac yn ymddadleu, yr Iesu ei hun hefyd, gan neshâu, oedd yn rhodio gyd â hwynt: