Luke 24:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac wynt eithyr y l’ygait wy a atdaliwyt val nad adwaenēt ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
oedd yn myned gyda hwynt; ond eu llygaid a attaliwyd fel nad adwaenent Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond ataliwyd eu llygaid hwynt rhag ei adnabod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedden nhw ddim yn sylweddoli pwy oedd e, am fod Duw wedi eu rhwystro rhag ei nabod e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr eu llygaid hwynt a rwystrwyd fel nas adwaenent ef.