Luke 24:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Paryw ymadroddion yw’r ei hyn ’sydd genwch wrth y gylydd dan rodio a phaam ydd ych, yn dristion?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrthynt, Pa beth yw’r geiriau hyn a fwriwch at eich gilydd dan rodio? A safasant, yn wyneb-drist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Beth yw’r chwedlau hyn yr ydych yn eu bwrw at eich gilydd wrth gerdded?” A safasant yn drist eu hwynebau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw'r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd iddyn nhw, “Am beth dych chi'n dadlau gyda'ch gilydd?” Dyma nhw'n sefyll yn stond. (Roedd eu tristwch i'w weld ar eu hwynebau.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai wrthynt, "Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?" Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa eiriau yw y rhai yr ydych yn cyfnewid â'ch gilydd, wrth rodio? A hwy a safasant yn wyneb drist.