Luke 24:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn (ai enw Cleopas) a atepawdd ac a ddyvot wrthaw, A wyt ti yn vnic yn ddiethr yn Caerusalem, ac ny wyddost y pethae a darvu y dyddiae hyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, un o honynt a’i enw Cleophas, a ddywedodd Wrtho, A wyt ti yn aros ar dy ben dy hun yn Ierwshalem ac heb wybod y pethau a ddigwyddasant ynddi yn y dyddiau hyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd un, o’r enw Gleopas, a dywedyd wrtho, “Ai ti yw’r unig ymwelydd yng Nghaersalem sydd heb wybod y pethau a ddigwyddodd ynddi hi yn y dyddiau hyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un ohonynt, a'i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Cleopas, un ohonyn nhw, yn dweud, “Mae'n rhaid mai ti ydy'r unig berson yn Jerwsalem sydd ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd y dyddiau dwetha yma!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr un o'r enw Cleopas, "Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un, o'r enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn byw fel ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost y pethau a ddygwyddasant ynddi hi yn y dyddiau hyn?