Luke 24:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ae ef a ddyvot wrthwynt, Pa pethae? Ac wy a dywedesant wrthaw, Am Iesu o Nazaret, yr hwn oeð Prophwyt, yn alluawc yn‐gweithret ac yn‐gair geyr bron Duw, a’r oll popul,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Pa bethau? A hwy a ddywedasant Wrtho, Y pethau ynghylch Iesu y Natsaread, yr Hwn oedd brophwyd galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Pa bethau?” Dywedasant hwythau wrtho, “Y pethau am Iesu o Nasareth, a fu’n ŵr o broffwyd, nerthol mewn gweithred a gair yng ngolwg Duw a’r holl bobl,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a'r holl bobl;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwybod beth?” gofynnodd. “Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi ei weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pa bethau?" meddai wrthynt. Atebasant hwythau, "Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ngu373?ydd Duw a'r holl bobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fath bethau? A hwy a ddywedasant wrtho, Y pethau am Iesu o Nazareth, yr hwn a ddaeth yn Broffwyd galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a'r holl bobl: