Luke 24:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anid ydd oeddem ni yn gobeithiaw mae ef oedd hwnn a ddelei i bryuu ’r Israel, ac am yr oll pethae hynn, heddyw yw’r trydydd dydd er pan ddarvuant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond nyni a obeithiem mai Efe oedd yr Hwn ar fedr gwaredu’r Israel. Eithr hefyd ynghyda’r holl bethau hyn, y trydydd dydd yw er pan fu i’r pethau hyn ddigwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr oeddem ni’n gobeithio mai ef oedd yr un a waredai’r Israel. Ac ar ben hyn oll, dyma’r trydydd dydd er pan fu hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai'r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe — Ond mae yna fwy …
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid, ond at hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe ei hun oedd yr hwn oedd ar waredu yr Israel. Ië, yn ddiau, heblaw yr holl bethau hyn, hwn yw y trydydd dydd iddo er pan ddygwyddodd y pethau hyn.